Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Ionawr 2020
Amser:
08.30 -
08.38
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Ann Jones AC (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Anfonodd y Llywydd ei hymddiheuriadau a chadeiriodd y Dirprwy Lywydd y cyfarfod yn ei lle. Anfonodd Caroline Jones ei hymddiheuriadau hefyd, ac roedd David Rowlands yn bresennol fel ei dirprwy.
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i'r Rheolwyr Busnes am y newid canlynol i Fusnes y Llywodraeth ar gyfer y 3 wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 21 Ionawr 2020 -
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (90 munud)
Dydd Mercher 22 Ionawr 2020 -
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) (30 munud)
Dydd Mawrth 28 Ionawr 2020 -
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cefnogi Canol ein Trefi (45 munud)
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 22 Ionawr 2020
Dydd Mercher 29 Ionawr 2020
Dydd Mercher 5 Chwefror 2020 -
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i bennu dyddiad cau, sef dydd Iau 23 Ionawr, i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid adrodd yn ôl ar Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i adolygu slot cyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad o fewn Amserlen y Pwyllgor fel y gall gwrdd yn wythnosol ar fore Mawrth.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor fod y llywodraeth yn bwriadu gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) heddiw, a bod yr amserlen seneddol yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynnig gael ei drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r memorandwm at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig gyda dyddiad cau o ddydd Mawrth 21 Ionawr ar gyfer adrodd yn ôl.